R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid
1. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer gwariant cyfalaf yn 2014? OAQ(4)0357(FIN)W
2. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith toriadau Llywodraeth y DU ar grant bloc Cymru? OAQ(4)0352(FIN)
3. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen Buddsoddi i Arbed? OAQ(4)0359(FIN)
4. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllid cyffredinol i'r portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi? OAQ(4)0358(FIN)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal ynglŷn â sut y gellir defnyddio cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i greu cyfleoedd i bobl ifanc? OAQ(4)0356(FIN)W
6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi eu cymryd i sicrhau bod anghenion menywod yn cael eu hystyried wrth gyflawni'r portffolio Cyllid? OAQ(4)0360(FIN)
7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am werth am arian ar draws cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0351(FIN)
8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau Bil Cymru drafft ar ei dyletswyddau? OAQ(4)0355(FIN)W
9. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau asesiad ariannol trylwyr o Filiau? OAQ(4)0362(FIN)
10. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrennir i’r portffolio Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth? OAQ(4)0354(FIN)
11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidogion y DU am bwerau ariannol ychwanegol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Cymru? OAQ(4)0353(FIN)
12. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw gynlluniau sydd ganddi i ychwanegu at y gyllideb gyfalaf ar gyfer y portffolio Tai ac Adfywio? OAQ(4)0348(FIN)
13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gynnydd sy'n cael ei wneud tuag at sefydlu Trysorlys i Gymru? OAQ(4)0349(FIN)
14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â'r dyraniad cyllideb i'r portffolio hwnnw? OAQ(4)0350(FIN)
15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllid i'r portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi? OAQ(4)0361(FIN)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiwn Williams ar Lywodraethu a Chyflawni Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0358(LG)
2. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i leihau'r risg o droseddu rhwng cenedlaethau yng Nghymru? OAQ(4)0365(LG)
3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r canllawiau y mae ei hadran wedi eu rhoi i Gynghorau yng Nghymru ynghylch sut i ateb yr heriau o leihau eu cyllidebau? OAQ(4)0360(LG)
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiwygio’r sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0364(LG)W
5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad cynghorau yng Nghymru? OAQ(4)0369(LG)
6. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer diogelwch cymunedol? OAQ(4)0366(LG)W
7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad Comisiwn Williams o ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0371(LG)
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol llywodraeth leol yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0359(LG)W
9. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae'n ymateb i adroddiad Comisiwn Williams ar Lywodraethu a Chyflawni Gwasanaethau Cyhoeddus? OAQ(4)0372(LG)
10. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa broses y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn wrth ystyried argymhellion Comisiwn Williams ar Lywodraethu a Chyflawni Gwasanaethau Cyhoeddus? OAQ(4)0370(LG)W
11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli perfformiad mewn awdurdodau lleol? OAQ(4)0363(LG)
12. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau argymhellion Comisiwn Williams i lywodraeth leol? OAQ(4)0361(LG)W
13. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? OAQ(4)0368(LG)W
14. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa asesiadau y mae'r Gweinidog wedi eu cynnal o lwyddiant mentrau cyfiawnder ieuenctid Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno'r Bil Cyfiawnder Ieuenctid? OAQ(4)0362(LG)W
15. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y setliad Llywodraeth Leol yn Nhorfaen? OAQ(4)0367(LG)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.